John Wesley | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1703 (yn y Calendr Iwliaidd) Epworth |
Bu farw | 2 Mawrth 1791 St Luke's |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinidog Methodistiaid, dyddiadurwr, athronydd, cyfieithydd, emynydd, cenhadwr, offeiriad, llenor, diwinydd, diddymwr caethwasiaeth |
Prif ddylanwad | Ioan, Martin Luther |
Dydd gŵyl | 2 Mawrth |
Tad | Samuel Wesley |
Mam | Susanna Wesley |
Priod | Mary Vazeille |
llofnod | |
Clerigwr ac efengylydd Seisnig oedd John Wesley (17 Mehefin 1703 - 2 Mawrth 1791).
Ganed ef yn Epworth yn Swydd Lincoln yn fab i Samuel Wesley a'i wraig Susanna Annesley. Daeth dan ddylanwad y Morafiaid, a dechreuodd efelychu George Whitefield trwy bregethu yn yr awyr agored. Yn wahanol i Whitefield, nid oedd yn Galfinydd. Ystyrir ef fel sylfaenydd enwad y Methodistiaid Wesleaidd.
Bu John Wesley yn pregethu yng Nghymru nifer o wethiau, ond cyfyngwyd ar ei lwyddiant gan anawsterau iaith. Y Methodistaid Calfinaidd, gan arweiniaid Daniel Rowland a Howell Harris oedd y cryfaf o lawer o’r enwadau Methodistaidd yng Nghymru. Roedd rhywfaint o gydweithrediad rhwng y ddau fudiad, ond roedd gwahaniaethau diwinyddol hefyd, gyda’r Wesleaid yn coleddu Arminiaeth yn hytrach na Chalfiniaeth.
Roedd yr emynydd Charles Wesley yn frawd iddo.